Llysieuydd Meddygol

C’auGA

1. Ydy’r llysieuydd meddygol yn siarad Cymraeg?

Ydwyf. Rwyf yn hollol rhugl yn y Gymraeg, a bydd pob ymgynghoriad yn cael eu cynnal naill ai drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg, neu hyd yn oed cymysgedd o’r ddwy iaith, yn ôl dewis y claf, a’r hyn sydd orau ganddynt. Gall y nodiadau a argreffir ar gyfer y claf fod yn y naill iaith neu’r llall, yn ôl dewis y claf.

2. Beth yw hyd ymgynghoriad a beth sy’n digwydd yn ystod y sesiwn?

Bydd yr ymgynghoriad cyntaf yn para am o gwmpas 1 1/2 i 2 awr oherwydd bod angen i mi sicrhau bod eich holl fanylion a chefndir meddygol gennyf, megis salwch blaenorol, meddyginiaethau rydych yn cymryd, unrhyw symptomau sydd arnoch, beth rydych yn ei fwyta ac yfed yn arferol mewn diwrnod, eich gwaith a’ch ffordd o fyw, yr amgylchedd rydych yn byw ynddo ac iechyd cyffredinol eich teulu.

Ar ôl dod i’ch adnabod a’ch deall fel person cyfan yn ystod yr ymgynghoriad, gyda’r holl fanylion uchod wedi eu gosod yn eu cyd-destun byddaf yn gallu gweld beth yw’r broblem waelodol – nid eich symptomau ymddangosiadol fyddai hyn o angenrheidrwydd, gan fy mod yn trin yr holl berson ac nid ei symptomau. Byddaf hefyd yn ystyried unrhyw symptomau ffisegol ymddangosiadol megis problemau’r croen neu wallt cyn penderfynu pa driniaeth, neu os fyddai triniaeth gennyf o fudd i chi.

Yn ystod yr ymgynghoriad trafodir yn fanwl yr hyn fyddwch yn bwyta ac yfed mewn diwrnod arferol, byddaf hefyd yn awgrymu unrhyw addasiadau posibl fyddai eu hangen er lles eich iechyd, ac y byddech yn gallu cadw at unrhyw argymhellion gennyf. Os bydd amryw o newidiadau i’w gwneud, byddaf yn awgrymu i chi wneud gymaint ag y gallwch ar y dechrau, bydd yr un newid a gedwir ato yn ddyfal yn well na cheisio newid o bosibl pum peth a methu cadw at unrhyw un ohonynt ar ôl ychydig wythnosau gan i ni fod yn rhy uchelgeisiol yn yr hyn roeddem am ei gyflawni.

Wedi dweud hynny bydd rhai cleifion sy’n dod am ymgynghoriad yn cadw at ‘lythyren y ddeddf ‘, a chyflawni’r holl newidiadau a argymhellir wedi’r ymgynghoriad cyntaf. Rydym i gyd yn wahanol ac yn fodau unigryw, felly bydd pob triniaeth yn cael ei deilwra i’r unigolyn.

Weithiau bydd angen ychydig o ymchwiliad ffisegol, bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn. Ond yn gyffredinol bydd yr ymgynghoriad yn bennaf ar ffurf trafodaeth. Byddai angen hefyd i mi gael gwybodaeth am unrhyw feddyginiaeth rydych yn eu cymryd, naill ai wedi eu hargymell ar bresgripsiwn gan eich meddyg, neu unrhyw ychwanegion arbennig megis fitaminau byddwch yn dewis eu cymryd eich hunan, neu fod therapydd arall wedi awgrymu i chi eu cymryd.

Bydd y driniaeth byddaf yn ei argymell yn cymryd i ystyriaeth y person cyfan, yn ffisegol, emosiynol ac ysbrydol, gan fod y rhain i gyd yn gysylltiedig, ac ni ellir trin person yn iawn heb eu hystyried gyda’i gilydd. Rydych yn berson yn ei gyfanrwydd. Er mwyn deall hwn yn syml, atebwch y cwestiwn hwn: Os ydych dan straen ac yn ofidus iawn a ydych yn teimlo’ch calon yn curo’n gyflymach neu’n gryfach yn eich bron? Mae’n siŵr i chi ateb yn gadarnhaol, felly mae sefyllfa emosiynol yn cael effaith ar eich corff yn ffisegol, ac os ydym wedi ein niweidio yn ffisegol mewn unrhyw ffordd a ydym yn teimlo’n ofidus neu dan straen?

Ar ddiwedd yr ymgynghoriad cyntaf byddaf yn rhoi gwybod i chi os credaf fod angen moddion arnoch sydd fel arfer ar ffurf cymysgedd o drwythau llysieuol (wedi eu trwytho mewn alcohol). Gall fod cymaint â 10 trwyth llysieuol gwahanol mewn un potel o foddion. Efallai gwnaf awgrymu y byddech yn elwa o gymryd ychwanegion llysieuol eraill megis fitaminau, ac mewn rhai achosion – yn dibynnu ar yr unigolyn a’i anghenion efallai gwnaf awgrymu byddai’n llesol i chi gael triniaeth gan therapydd amgen arall megis aciwbigo, meddyg esgyrn neu Dechneg Alexander.

Bydd unrhyw foddion llysieuol penodedig yn cael ei gymysgu’n arbennig ar eich cyfer chi fel unigolyn ac i’r cryfder y credaf y gallwch ymdopi ag ef, gan y bydd rhai â chyfansoddiad gwan iawn (oherwydd amrywiol resymau ac o bosibl problemau iechyd hirfaith), sy’n golygu na ddylai’r moddion fod yn rhy gryf – yn arbennig ar ddechrau eich triniaeth neu fe ellir dioddef ‘argyfwng iachâd’ ac fe welir fod unrhyw symptomau’n gwaethygu. Dyma’r rheswm pam fod triniaeth lysieuol gan lysieuydd meddygol wedi cymhwyso fel arfer yn broses graddol, tyner, gan roi cyfle i’r corff dyfu’n gryfach yn raddol gyda’r driniaeth lysieuol fydd yn ei dro’n cynorthwyo’r corff i wella ei hunan. Nid yw moddion llysieuol yn gweithio fel hud, ond mae’n driniaeth graddol i’ch corff ffisegol, y meddwl a’r ysbryd. Eto, pwysleisiaf fy mod bob amser yn trin y person cyfan ac nid unrhyw symptomau arbennig.

Oherwydd natur yr ystafell ymgynghori/cymysgu moddion, ni fyddaf yn paratoi’r moddion tra byddwch gyda mi, ond byddaf yn ei baratoi’n ddiweddarach ac fe fyddaf yn ymgynghori ậ chi ynglŷn â’r ffordd y dymunwch dderbyn y moddion a fydd yn barod ar eich cyfer naill ai yn hwyrach yr un diwrnod neu o leiaf o fewn y 3 diwrnod canlynol. Bydd hyn naill ai drwy’r post, ei gasglu neu ei ddosbarthu i chi. O dan rhai amgylchiadau bydd angen i mi archebu eitem er mwyn ei gynnwys yn eich moddion, os digwydd hyn yna gall eich moddion gymryd hyd at wythnos i’w baratoi ar eich cyfer.

Gyda’r botel gyntaf o foddion, neu o leiaf ar ôl yr ymgynghoriad cyntaf (os na fydd angen moddion) byddaf yn paratoi nodiadau a chanllawiau argraffedig yn arbennig i chi fydd yn cynnwys unrhyw argymhellion a phwyntiau a drafodwyd yn ystod eich ymgynghoriad i’ch atgoffa. Fe all hefyd gynnwys unrhyw bwyntiau eraill ynglŷn â chymryd eich moddion, neu awgrymiadau eraill y credaf fyddai o ddefnydd i chi a ddaeth i gof ar ôl eich ymgynghoriad.

3. Am ba mor hir bydd botel o foddion yn para?

Yn aml bydd gan glaf sefyllfa salwch hirfaith, ac yn y sefyllfa hon byddaf yn awgrymu dylid ei adolygu ar ôl cyfnod o fis, byddaf felly’n sicrhau bod gennych potel o foddion mawr bydd fel arfer yn para am fis. Os teimlaf y gallai’ch sefyllfa newid o fewn 2 – 3 wythnos (efallai oherwydd salwch llym) yna gallaf benderfynu rhoi botel llai i chi a fyddai fel arfer yn para am tua 2 wythnos. Ar ôl hyn byddai angen inni asesu ac ail edrych ar eich triniaeth.

4. Beth sy’n digwydd yn ystod ymgynghoriad dilynol?

Bydd ymgynghoriadau dilynol yn para hyd at awr. Yn ystod rhain byddwn yn trafod unrhyw newidiadau rydych wedi sylwi arnynt yn eich hunan ers inni gael ein hymgynghoriad diwethaf. Efallai byddwch wedi bod yn cymryd moddion, neu wedi newid rhywbeth yn eich ffordd o fyw neu arferion bwyta, fel y cytunwyd yn ein hymgynghoriad blaenorol, er mwyn hybu eich iechyd. Byddwn yn trafod pob agwedd bwysig o’r corff ffisegol er mwyn gweld os ydy unrhyw beth wedi newid ers yr ymgynghoriad olaf. Efallai i chi sylwi bod eich emosiynau neu hwyl wedi newid ers dechrau’r driniaeth, gallai hynny fod naill ai ar i fyny neu efallai bydd teimladau neu feddyliau wedi codi i’r wyneb a fu yn gudd neu wedi eu hanghofio’n flaenorol. Fe ellir trafod y rhain ymhellach yn ystod yr ymgynghoriad. Cyn diwedd y sesiwn byddwn wedi penderfynu os bydd angen cadw eich moddion fel cynt, neu ei newid ychydig, a hefyd os oes angen ystyried a thrin unrhyw bwyntiau eraill.

5. Beth yw pris ymgynghoriad?

Yn gyfredol y gost ar gyfer ymgynghoriad cyntaf yw £55 yna bydd yr ymgynghoriadau canlynol yn £40 yr un.

Pris boteli o foddion fel a ganlyn:

£32 am 500ml

£18 am 250ml

£12 am 100ml

Os caiff moddion ei bostio i chi yna bydd cost y pacio a’r postio yn cael ei ychwanegu at eich costau yn ôl prisiau cyfredol postio.

6. Pa fath arall o bresgripsiwn y gallwn ei dderbyn?

Efallai cewch eich cynghori i gymryd ychwanegion arbennig megis fitaminau sydd ar gael dros gownter siop, neu os oes angen triniaeth argroenol arnoch efallai byddaf yn rhoi presgripsiwn ar gyfer un o’m hamrywiol jariau eli rwyf yn eu cymysgu fy hunan allan o ddeunydd llysieuol naturiol, mewn sylfaen o gŵyr gwenyn ac olew olewydd.

Mae hefyd yn bosibl y rhoddaf bresgripsiwn o feddyginiaeth ‘Bach Remedies’ i chi, naill ai ar ffurf unigol neu mewn cymysgedd ohonynt fel triniaeth posibl ar gyfer yr emosiynau.

 

7. Pa mor aml bydd angen i mi weld y llysieuydd meddygol am ymgynghoriad?

Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, ond yn gyffredinol bydd angen inni gynnal ymgynghoriad unwaith y mis. Weithiau gwneir ymgynghoriad dros y ffôn os ydy pethau wedi bod yn sefydlog gyda’ch iechyd am gyfnod, ac nad wyf yn credu ei fod yn hollol angenrheidiol i ni gael ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Bydd faint o ymgynghoriadau dilynol fyddai angen arnoch eto’n dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a’ch iechyd.   Bydd rhai’n teimlo’n llawer gwell ar ôl un neu ddau ymgynghoriad gyda moddion, bydd eraill angen sawl mis o driniaeth cyn gweld gwahaniaeth yn ei hiechyd. Bydd angen cydweithrediad rhyngoch chi’r claf, a’r llysieuydd meddygol ar gyfer pob triniaeth, er llês eich iechyd. Gofynnir i chi wneud cymaint ag y gallwch i gynorthwyo’ch triniaeth – efallai drwy addasu a newid beth fyddwch yn ei fwyta, eich ffordd o fyw neu rywbeth arall yn ogystal â chymryd unrhyw feddyginiaeth benodedig a argymhellir gan y llysieuydd meddygol.

8. Beth yw cynnwys potel o foddion?

Mae’r holl foddion trwythedig yn llysieuol – gellir defnyddio amrywiol rannau o’r planhigyn – ac fe gafodd y rhain eu tynnu o’r planhigyn drwy ddefnyddio alcohol. Ni ddefnyddir unrhyw rannau o anifeiliaid o gwbl.   Rwy’n prynu trwythau unigol oddi wrth cwmnïau cyfrifol sydd â rheolau ansawdd caeth ar eu nwyddau. Byddaf wedyn yn cymysgu sawl un o’r trwythau rhain i greu presgripsiwn unigol at eich anghenion arbennig chi.   Os oes problemau goddefedd alcohol gennych yna byddaf yn paratoi moddion ar ffurf arall ar eich cyfer.

9. Beth os bydd angen i mi ganslo apwyntiad?

Rhaid rhoi o leiaf 24 awr o rybudd os oes angen i chi ganslo apwyntiad am ba bynnag reswm. Os na wnewch chi roi’r rhybudd hwn yna gellir codi tâl hyd at 100% o bris yr ymgynghoriad arnoch.