Darllenwch am Balm Dinefwr Cyf a Dilys Griffiths, llysieuydd meddygol. Yn Rhydaman ac yn Llandeilo.
Ddim yn siwr o beth mae Balm Dinefwr Cyf yn gallu ei gynnig? Cwestiynau ynglyn â beth yw Llysieuydd Meddygol?
Diwrnod mewn bywyd Llysieuydd Meddygol! Darllenwch am flodau a pherlysiau gwahanol, a’r buddiau o’u defnyddio.
Cysylltwch trwy ebost, ffôn, post neu drwy ein ffurflen gyswllt arlein. Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
Llysieuydd Meddygol: Dilys Griffiths
Fe wnes gymhwyso fel Llysieuydd Meddygol yn 2006, ac rwyf yn aelod o gorff proffesiynol llysieuwyr meddygol yr URHP gyda phrofiad o drin pobl â llysiau ers hynny. Gallaf drafod gyda chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ôl eu dewis.
Rwyf ar gael i roi sgyrsiau am driniaethau llysieuol i gymdeithasau a grwpiau o fewn taith rhesymol o Rydaman. Holwch am fwy o wybodaeth.
Cyswllt defnyddiol arall www.herbalist.org.uk
Fel Llysieuydd Meddygol byddaf yn trin y person cyfan gan asesu pob agwedd ar fywyd y claf, eu gwaith a’u hamgylchfyd, gan y bydd rhain bob amser yn cael effaith ar iechyd mewn rhyw ffordd. Bydd cleifion yn cael eu trin o safbwynt corff, meddwl ac ysbryd.
DARLLENWCH MWY…
- Trin y person yn ei gyfanrwydd ac nid trin y symptomau
- Meddyginiaeth a balmau naturiol
- Presgripsiwn unigryw ar eich cyfer chi ac amgylchiadau eich iechyd
- Ymgynghoriadau awr o hyd cymaint neu gyn lleied a sydd angen