Llysieuydd Meddygol

Eitemau ynglyn ag Amrywiol Lysiau Rhinweddol Defnyddiol

Gwybodaeth bwysig cyn casglu unrhyw blanhigion neu flodau

Ble bynnag byddwch yn casglu unrhyw blanhigion neu dyfiant byddwch yn ymwybodol o blaleiddiaid neu halogyddion a all fod ar, neu yn agos at yr ardal dyfiant, os felly yna ni ddylech eu casglu. Hefyd byddwch yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ynglŷn â chasglu blodau a phlanhigion gwyllt, a gofynnwch am ganiatâd y tirfeddiannwr cyn casglu unrhyw beth. Bydd rhai o’r planhigion rydym efallai yn eu hystyried fel chwyn, ond byddwch yn ymwybodol o’r cyfreithiau, a hefyd yn arbennig o bwysig, dylech sicrhau eich bod yn adnabod heb unrhyw amheuaeth beth rydych yn eu casglu, mae rhai planhigion yn wenwynig neu fe allant achosi adwaith annymunol cryf iawn. Os oes unrhyw amheuaeth gennych, cysylltwch â pherson cymwys sy’n deall y planhigion hyn ac sy’n gallu rhoi cyngor proffesiynol i chi ynglŷn â beth fyddai’n addas ac yn gyfreithlon i chi ei gasglu a’i ddefnyddio.   Hefyd, os ydych chi’n prynu llysiau llesol i’w defnyddio, sicrhewch mai’r hyn rydych yn ei ddisgwyl ydyw’r cynnyrch sydd gennych, a pheidiwch â phrynu gan unrhyw gyflenwyr amheus. Dylech yn ddelfrydol sicrhau fod y planhigyn cywir gennych drwy edrych ar ei enw Lladin.

Rhosyn (Rosa canina)

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r math ‘Rosa canina’ o rosyn ac nid un croesryw neu blanhigion rhosyn a allai fod wedi eu trin gyda phlaladdwyr neu liw. Yn feddygol gellir defnyddio’r dail neu’r petalau gan fod effaith tawelu neu oeri ganddynt hwy ill dau, a gellir eu defnyddio i dynnu gwres o’r corff ar adeg twymyn neu i glirio gwenwyn (tocsin) a gwres allan o systemau’r corff.   Gall petalau’r rhosyn gynorthwyo i liniaru symptomau yr anwyd a’r ffliw yn ogystal ag unrhyw wddf tost a thrwyn sy’n rhedeg sy’n gysylltiedig gyda hwy.   Gallant hefyd ymladd haint yn y system dreulio. Mae petalau’r rhosyn yn cael effaith lliniaru ar y system nerfol ac fe allant gynorthwyo mewn achos o ddiffyg cwsg, chwalu blinder meddyliol a ffisegol yn ogystal â chodi iselder ysbryd. Maent yn taweli’r galon ac yn esmwytho crychguriad y galon.   Mae ganddynt effaith tynnu dŵr – yn clirio gormodedd o ddŵr o’r corff. Mae’n cynorthwyo i glirio’r system atgynhyrchiol fenywaidd ac yn gallu cynorthwyo gydag anffrwythlondeb. Defnyddiwch hwy mewn te llysieuol. Gweler yr awgrym o dan Lafant.

Camri (Matricaria recutita)

Mae camri yn lysieuyn sy’n tawelu, ac fe ellir ei ddefnyddio ar ei ben ei hunan ar gyfer llid neu broblemau treulio mewn babanod a phlant. Mae’n tawelu pob problem treulio, a bydd yn esmwytháu nerfusrwydd a phryder. Gellir ychwanegu cymysgedd o’r te gwan at faddon plentyn er mwyn esmwytho plentyn grwgnachlyd, blinedig. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer poen abdomenol, gwynt, chwyddo, rhwymedd a dolur rhydd (mae’n rheoli’r symudiad). Mae hefyd yn cymell cwsg esmwyth. Mae’n cynorthwyo gyda phledren lidus a llid y bledren yn ogystal ag anhwylderau mislifol a phennau tost ‘PMS’. Fe wnaiff ei effaith gwrth alergedd gynorthwyo gyda phethau megis llwch a phaill. Ar gyfer te llysieuol gweler y gymysgedd o dan Lafant.

Lafant (Lavandula angustifolia)

Yr olewau anweddol yn lafant yw’r prif rinweddau sy’n gweithio’n feddyginiaethol.   Cafodd ei ddefnyddio dros y canrifoedd, ac mae’n cael effaith ymlacio ar y corff a’r meddwl. Rydym yn defnyddio’r olew hanfodol yn aml ar gyfer ei arogli er mwyn lleddfu pryder, ac i’n cynorthwyo i ymlacio. Mae’n fuddiol ar gyfer nerfusrwydd ac unrhyw symptomau ffisegol sy’n cael eu hachosi gan straen – pethau megis pen tost, diffyg cwsg a chrychguriad y galon. Fe wnaiff hefyd godi’r ysbryd, ac mae ganddo effaith gynhyrfiol gan ei fod yn donig i’r system nerfol.

Mae lafant hefyd yn dda i’w ddefnyddio’n allanol fel diheintydd ar gyfer briwiau a chlwyfau, ac mae’n cyflymu iachâd a thyfiant meinwe. Er enghraifft os byddaf wed cael llosgiad bach with smwddio neu ar y ffwrn, yna fe wnaf arllwys gryn dipyn o’r olew hanfodol heb ei wanhau dros y briw, ac mae’n gwella mewn amser byr iawn heb adael craith weladwy.

Gallwch ddefnyddio’r llysieuyn mewn te neu drwyth, ond noder mai ond ychydig iawn sydd ei angen, a byddwn i’n awgrymu eich bod yn ei gymysgu gyda llysiau llesol eraill ar gyfer te, er enghraifft ei gymysgu gyda chamri a phetalau rhosyn. Sicrhewch fod y lafant a ddefnyddir o ansawdd bwyd (cullinary lavender) neu yn organig, ac nid beth ellir ei brynu mewn siop flodau sy’n gallu cynnwys triniaethau a phersawr neu blaladdwyr. Gwell fyth, tyfwch blanhigyn organig eich hunan – y mathau ‘Lavandula angustifolia’ neu ‘lavandula spica’ yw’r rhai sydd a’r rhinweddau meddyginiaethol gorau.

Dyma awgrym o gymysgedd ar gyfer te i’ch ymlacio sydd hefyd yn codi eich ysbryd. Gallwch amrywio’r dogn, ond sicrhewch nad ydych yn rhoi gormod o lafant oherwydd bod ganddo flas cryf iawn. Mae’r canrannau o gwmpas 62% petalau rhosyn sych, 21% camri sych a 17% blodau lafant sych. Gallwch amrywio’r canrannau hyn yn ôl eich dewis. Gellir defnyddio dŵr rhosyn o ansawdd bwyd yn lle’r petalau os nad ydych yn gallu cael y petalau. Mewn mesur litr o ddŵr berw byddai 6 llwy de o betalau rhosyn, 2 llwy de o gamri sych a tua 1 ¼ lwy de o lafant sych. Gadewch iddo fwydo am tua 5-8 munud, yna ei hidlo. Yfwch ac ymlaciwch!

Turmeric

Mae hwn yn sbeis ag amryw o ddefnyddiau iddo ac yn dda iawn ar gyfer yr iechyd. Os ydych yn ei ddefnyddio wrth goginio yna mae hyn yn wych. Ffordd arall i’w gymryd byddai i’w ychwanegu at laeth almon poeth, sy’n creu diod lliw aur.

Mae’n sbeis sy’n twymo felly mae’n dda ar gyfer y cylchrediad gwaed, y cymalau ac yn wir holl systemau’r corff. Mae cymaint ohonom o dan straen y dyddiau hyn ac fe fydd ein cyrff yn cynnwys gwenwyn neu docsinau a llygredd o ryw fath, bydd turmeric yn cynorthwyo i glirio’r rhain allan o’r gwaed.

Balm Lemwn (Melissa officinalis)

Mae gan falm lemwn rinweddau taweli’r nerfau, gall hefyd gynorthwyo i leihau pwysedd gwaed uchel ac mae’n gymorth i godi’r ysbryd. Mae ganddo rinweddau cryfhau’r galon ac mae’n gymorth ar gyfer problemau gyda’r system dreulio. Rhowch ychydig o’r dail glân ffres wedi eu rhwygo mewn siwg a llenwch gyda dŵr berw a’i adael am tua 8 munud ar gyfer te adfywiol hafaidd fydd hefyd yn lleddfu’r nerfau. Gallwch hefyd ei adael i oeri cyn ei yfed ar gyfer y te hafaidd.

Danhadlen boeth neu ddinant (Urtica dioica)

Caiff y rhain eu casáu gan lawer oherwydd eu natur bigog, ond mae’n llawn rhinweddau maethlon glanhau. Gallwch ddefnyddio’r tyfiant ifanc wedi eu malu’n fan mewn salad neu fel llysieuyn wedi eu hageru’n ysgafn, mae ganddo flas fel sbigoglys. Gallwch hefyd wneud sŵp ohono. Mae’n cynnwys rhinweddau llesol fel cloroffyl, histamin, haearn, calsiwm, silica a Fitamin C. Gwnewch de llesol sy’n glanhau holl systemau’r corff ohono, efallai fel tonig gwanwyn, neu fel te llysieuol glanhau rheolaidd.

Melyn Mair (Calendula officinalis)

Gellir gwneud eli o’r blodyn hwn sydd â rhinweddau lliniaru, antiseptig, sychu (sy’n tynnu meinwe at ei gilydd), gwrth-feicrobal a gwrth ffwngaidd, felly mae’n arbennig o dda ar gyfer clwyfau, cosi ac unrhyw broblemau gyda ffwng. Mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer clwyfau sy’n gwaedu a mân losgiadau. Mae’n un i’w gadw yn y bwlch cymorth cyntaf llysieuol.

Cwmffri (Symphytum officinale)

Cwmffri - comfreyCredaf taw eli o’r llysieuyn hwn yw’r gorau ar gyfer gwella cleisiau ac ysigiad, yn ogystal ag esgyn wedi torri gan ei fod yn rhwymo’r meinwe. Fe’i hadnabyddid fel ‘clymwr esgyrn’ gan y Rhufeiniaid. Mae’n cynnwys sylwedd a elwir yn Allantoin, sydd â rhinweddau rhwymo. Pan syrthiais a thorri 5 asgwrn yn fy nhroed yn ystod 2015 bu fy nhroed hyd at fy mhen-glin mewn plastr am 7 wythnos ac fe yfais de wedi ei wneud o ddeilen y cwmffri bron bob dydd, ac fe wnaeth yr esgyrn wella’n rhagorol. Er mwyn cynnal y gwaith cryfhau ar yr esgyrn a’r meinwe wedi tynnu’r plastr, defnyddiais sypiau hael o fy eli Cwmffri, Arnica a Wintergreen o leiaf dwywaith y dydd am sawl wythnos. Gwych!

 

Betys Coch

Byddai rhai’n ystyried hwn fel bwyd gwych. Mae’n cynnwys tipyn o haearn ac asid silicic ac mae’n cynorthwyo’r celloedd gwaed coch i adfywio. Mae hefyd yn cynnwys seleniwm, fitaminau A, C ac E, fflafinoidau a ffibr. Mae hefyd yn cynorthwyo’r afu i dorri lawr braster sydd wedi ei storio. Gall gynorthwyo i ostwng pwysedd gwaed – yn dibynnu wrth gwrs ar y rheswm dros y pwysedd gwaed uchel (rhaid ymchwilio i’r rheswm am hyn bob amser).

Gellir ei ddefnyddio fel bwyd naill ai wedi ei goginio (yn bersonol ni fydden i yn defnyddio’r un wedi ei biclo) neu yn amrwd (byddai hwn wedi ei ratio’n fân), ond gan nad ydyw’n colli ei rinweddau maethlon wrth ei goginio, efallai byddai’n fwy derbyniol yn y ffurf hon. Cofiwch wrth fwyta neu yfed betys coch fe sylwch fod y dŵr o’ch corff a/neu eich carthion â lliw cochlyd.

Mae sudd ohono’n ffordd dda o’i ddefnyddio. Os ydych yn ei ddefnyddio fel hyn byddai angen i chi ei gymysgu gyda sudd moron efallai – ond gydag un rhan ohono yn fetys coch i bedair rhan yn foron. Byddech yn defnyddio’r llysiau amrwd a’u rhoi yn y peiriant gwneud sudd.

Ceirch (Avena sativa)

Mae’r rhain yn werthfawr iawn i’r system nerfol am eu bod yn cynnwys fitamin B, asid nicotinig, calsiwm, haearn, protein, sinc, magnesiwm, copr ac yn arbennig o bwysig fitamin E sy’n llesol iawn i’r system nerfol. Gellir ei ddefnyddio mewn sawl modd, megis fel uwd traddodiadol, teisennau ceirch neu fwsli. Byddaf i’n ei ddefnyddio gyda blawd spelt fel cymysgedd sylfaenol ar gyfer fflan. Mae’n ffurf dda o fwyd garw yn y diet. Fe’i defnyddir hefyd yn allanol ar gyfer y rhai sy’n dioddef o ecsema neu psoriasis, byddai hwn ar ffurf golchiad wedi ei osod mewn cwdyn mwslin mewn baddon er mwyn iro croen sy’n cosi.

 

Dim ond ychydig iawn yw’r rhain o’r llu o lysiau a phlanhigion rhinweddol y gellir eu defnyddio er budd eich iechyd.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *