Llysieuydd Meddygol

Amdanon Ni Balm Dinefwr Cyf

P9180543 Low Resolution

Pan gymhwysais fel llysieuydd meddygol yn 2006 wedi astudio rhan amser am 6 mlynedd ac yna symud i Rydaman o Gastell Newydd Emlyn – y ddwy dre yn Sir Gaerfyrddin, penderfynais sefydlu fy musnes fel llysieuydd meddygol yn y lle cyntaf, yn Rhydaman ond yna’n ddiweddarach gweithio yn Llandeilo hefyd sydd tua wyth milltir i’r gorllewin o Rydaman.

Wrth benderfynu ar enw ar gyfer fy musnes llysieuol dewisais Balm o’r enw cyffredin ar Melissa – sef Balm Lemwn, llysieuyn defnyddiol iawn ar gyfer y system nerfol, ac un bûm i’n ei ddefnyddio’n aml iawn ar ffurf te yn ystod fy nghyfnod o astudio ar gyfer cymhwyso fel llysieuydd meddygol, oherwydd roeddwn yn gweithio mewn swydd arall yn llawn amser am y rhan fwyaf o’r chwe blynedd hyn. Fe wnaeth Balm y Lemwn fy nghynorthwyo a chryfhau fy system nerfol pan oedd ei angen arnaf yn ystod cyfnod arholiadau ac astudio dwys.

Daw Dinefwr o’r ardal neu fwrdeistref o gwmpas Rhydaman, Llandeilo a thuag at Lanymddyfri ac olion hen gastellDinefwr Castle with Bluebells Dinefwr wedi eu lleoli yn Llandeilo. Efallai i chi glywed am Feddygon Myddfai – cant eu hadnabod yn eang fel rhai oedd yn darparu triniaethau meddyginiaeth lysieuol flaengar mor bell yn ôl a diwedd y 12fed Ganrif.

Dywedir bod y Meddygon yn ddisgynyddion i Ferch Llyn-y-Fan Fach ger Myddfai. Efallai eich bod yn gyfarwydd â’r chwedl, ond os nad ydych, mae’n werth i chi ei ddarllen hyd yn oed os mai dim ond ar gyfer y stori hudolus a’i ramant y gwnewch hynny, ynglŷn â mab y ffermwr a syrthiodd mewn cariad gyda’r ferch hudolus o’r llyn a briododd yn y pen draw. Daw hi a’u holl anifeiliaid gyda hi ato, gan gynnwys y Da Gwynion gyda’u clustiau brith. Ond mae’n dychwelyd i’r llyn yn dilyn tri thrawiad di angen gan ei gŵr. Wedi hyn dywedir iddi ymddangos sawl gwaith i’w mab hynaf lle mae’n datgelu meddyginiaethau iachaol iddo, ac iddi ddangos iddo ym mhle y gallai gasglu’r amrywiol lysiau rhinweddol ar gyfer y meddyginiaethau, y man a elwir yn ‘Bant y Meddygon’. Pa unai y dewiswn gredu’r chwedl ai peidio, mae’n ffaith yn ystod y cyfnod hwn bu yna feddygon galluog iawn ynghyd a’u disgynyddion yn byw yn yr ardal, ac roeddynt yn gyfrifol am gasglu a chofnodi meddyginiaethau iachaol a gafodd eu defnyddio ar hyd y canrifoedd. Mae’r ffaith hanesyddol hon yn rhoi etifeddiaeth meddyginiaethau llysieuol cyfoethog, cryf yn dyddio nôl mor bell â diwedd y 12fed Ganrif i ni yng Nghymru.

Lemon BalmYn ystod dechrau’r 13eg Ganrif yng nghyfnod Rhys Grug (oedd yn fab i Rhys ab Gruffydd) Tywysog y Deheubarth oedd a’i brif lys yng Nghastell Dinefwr (Llandeilo), tua 10 milltir o Fyddfai, cawn hanes am Feddygon Myddfai, gan ei fod yn arfer gan y Tywysog gael ei feddyg o dan ei nawddogaeth, a Rhiwallon a’i feibion, oedd yn ddisgynyddion i Feddygon Myddfai oedd y rhain. Rhoddodd y Tywysog statws, breintiau a thir ym Myddfai iddynt.

Gellir olrhain llawer o’r meddyginiaethau llysieuol a ddefnyddid ganddynt yn ôl i amser Hywel Dda neu yng nghynt.

Dywedir i’r ffordd byddai’r Meddygon yn mynd ati i drin afiechydon yn y 15fed Ganrif yn dipyn mwy blaengar na’r rhanfwyaf o wledydd Ewrop, ac yn fwy rhydd o ddylanwadau ofergoeliaeth. Fe wnaent ymdrech i ddadansoddi symptomau cyn rhoi eu triniaeth, a chai rhinweddau’r llysiau eu profi cyn eu defnyddio ac yna eu paratoi’n ofalus dros ben.

Credaf i un ffactor arall fod yn allweddol i’m taith tuag at gymhwyso fel llysieuydd meddygol, sef mai brodores o Lanymddyfri (ger Myddfai) oedd fy mam, ac i rai o’u pherthnasau gael eu hadnanbod fel defnyddwyr a hyrwyddwyr triniaethau llysieuol.

Fe wnaeth hyn i gyd gyfrannu at fy nhaith i gymhwyso fel llysieuydd meddygol o dan yr enw Balm Dinefwr (Cyf yw’r talfyriad Cymraeg am gyfyngedig).

Rwyf yn lysieuydd meddygol sydd wedi ei chymeradwyo gan yr EHTPA.

HerbMark_Logo_COLOURMae’r nodyn masnachu torfol  Herbmark® yn dynodi ymarferydd llysieuol sy’n aelod o gymdeithas broffesiynol sy’n gysylltiedig â’r Gymdeithas Ymarferwyr Llysieuol Ewropeaidd a Meddyginiaeth Traddodiadol (EHTPA) ac wedi cyrraedd at eu safonau addysgiadol ac ymarfer proffesiynol.  Am driniaethau lysieuol y gallwch ymddiried ynddynt, chwiliwch am yr Herbmark® www.herbmark.uk.