Llysieuydd Meddygol

Darllenwch am Balm Dinefwr Cyf a Dilys Griffiths, llysieuydd meddygol. Yn Rhydaman ac yn Llandeilo.

Darllenwch Amdanom Ni

Ddim yn siwr o beth mae Balm Dinefwr Cyf yn gallu ei gynnig? Cwestiynau ynglyn â beth yw Llysieuydd Meddygol?

Darllenwch Mwy

Diwrnod mewn bywyd Llysieuydd Meddygol! Darllenwch am flodau a pherlysiau gwahanol, a’r buddiau o’u defnyddio.

Darllenwch Ein Blog

Cysylltwch trwy ebost, ffôn, post neu drwy ein ffurflen gyswllt arlein. Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.

Cysylltwch

 

Llysieuydd Meddygol: Dilys Griffiths

Fe wnes gymhwyso fel Llysieuydd Meddygol yn 2006, ac rwyf yn aelod o gorff proffesiynol llysieuwyr meddygol yr URHP gyda phrofiad o drin pobl â llysiau ers hynny. Gallaf drafod gyda chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ôl eu dewis.

Rwyf ar gael i roi sgyrsiau am driniaethau llysieuol i gymdeithasau a grwpiau o fewn taith rhesymol o Rydaman.  Holwch am fwy o wybodaeth.

Cyswllt defnyddiol arall www.herbalist.org.uk 

Fel Llysieuydd Meddygol byddaf yn trin y person cyfan gan asesu pob agwedd ar fywyd y claf, eu gwaith a’u hamgylchfyd, gan y bydd rhain bob amser yn cael effaith ar iechyd mewn rhyw ffordd. Bydd cleifion yn cael eu trin o safbwynt corff, meddwl ac ysbryd.
DARLLENWCH MWY…

  • Trin y person yn ei gyfanrwydd ac nid trin y symptomau
  • Meddyginiaeth a balmau naturiol
  • Presgripsiwn unigryw ar eich cyfer chi ac amgylchiadau eich iechyd
  • Ymgynghoriadau awr o hyd cymaint neu gyn lleied a sydd angen